Bu datblygiadau sylweddol mewn ymchwil i ddyslecsia yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf. Bu hyn o gymorth o ran esbonio dyslecsia a chefnogi polisi ac arfer. Bu’r effaith yn sylweddol, ond eto, hyd heddiw, ni chafwyd yr un eglurhad clir o ddyslecsia a gaiff ei dderbyn yn gyffredinol. Mae’r broses o’i adnabod yn dal yn destun dadl er bod nifer o brofion newydd ar gyfer adnabod dyslecsia neu is-rannau o ddyslecsia wedi’u creu. Yn wir, mae’r ddadl yn parhau am werth dyslecsia fel syndrom y gellir ei adnabod.

Mae copi llawn o’r adroddiad ar gael yma.

9 awgrym er mwyn helpu’r dysgu

  1. Adnabod y dull o ddysgu sydd orau gan y dysgwyr.
  2. Cyflwyno gwybodaeth newydd mewn camau bychain.
  3. Defnyddio dull gor-ddysgu – defnyddio ystod mor eang â phosibl o ddeunyddiau a strategaethau.
  4. Cysylltu gwybodaeth newydd â gwybodaeth flaenorol.
  5. Grwpio, neu dalpio, gwybodaeth mewn modd sy’n helpu’r dysgwyr i ddysgu’n fwy effeithlon.
  6. Dangos cysylltiadau rhwng gwahanol ddarnau o wybodaeth – efallai na fydd y dysgwyr yn gallu gwneud hyn drostynt eu hunain.
  7. Helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu strategaethau cof eu hunain, fel mapio meddwl, codio lliw a chofyddiaeth/mnemonics.
  8. Helpu plant i adnabod y pwyntiau pwysig mewn dysgu newydd, neu mewn testun.
  9. Helpu’r dysgwyr i gaffael sgiliau sy’n crynhoi gwybodaeth.

20 awgrym ar gyfer dysgu effeithiol

  1. Camau bychain – mae’n bwysig cyflwyno tasgau mewn camau bychain, yn enwedig gan fod plant sydd â dyslecsia o bosibl yn cael anawsterau cof tymor byr. Mewn gwirionedd, mae’n siŵr bod un dasg ar y tro yn hen ddigon. Os rhoddir nifer o dasgau, yna gall rhestr wirio fod yn fodd defnyddiol i’r plentyn nodi a monitro ei gynnydd ei hun.
  2. Gwaith grŵp – Mae’n bwysig cynllunio ar gyfer gwaith grŵp. Mae dynameg y grŵp yn allweddol ac mae angen i blant dyslecsig fod mewn grŵp lle gall o leiaf un yn y grŵp roi rhyw fath o strwythur i’r tasgau grŵp. Gall hwn fod fel profiad modelu i blant dyslecsig – mae hefyd yn bwysig nad yw’r rhai sydd yn y grŵp yn llethu’r plentyn dyslecsig – felly mae’n bwysig hefyd cael rhywun a all sicrhau bod y plentyn dyslecsig yn cyfrannu i’r grŵp. Er na fydd ganddo efallai’r un gallu â’r lleill yn y grŵp o ran darllen, bydd bron yn bendant â’r un gallu o ran deall, felly gall gyfrannu os gaiff y cyfle.
  3. Defnyddio papur lliw– mae rhywfaint o dystiolaeth fod cefndir a ffont o wahanol liwiau yn gallu gwella darllen a chanolbwyntio rhai plant.
  4. Cynlllun y dudalen – mae cynllun y dudalen yn bwysig iawn – dylai fod yn weledol ond nid yn orlawn. Mae cefndir lliw fel arfer yn well. Gall maint ffont hefyd fod yn ffactor allweddol ac ni ddylai fod yn rhy fach. O ran y ffont ei hun, awgrymwyd mai Sasoon, Comic Sans a Times New Roman yw’r rhai gorau ar gyfer dyslecsia.
  5. Caniatáu amser ychwanegol – bydd rhai plant dyslecsig angen llawer o amser ychwanegol, yn enwedig ar gyfer tasgau fel copïo o’r bwrdd gwyn ac ymarferion ysgrifennu.
  6. Llunio rhestr wirio er mwyn sicrhau bod cyfarwyddiadau wedi’u deall, fel – Beth sy’n cael ei ddweud/ei ofyn? Beth sydd angen i mi ei wneud? Sut y byddaf yn gwybod a ydw i’n gywir? Yn aml, ni fydd plant dyslecsig yn cael yr ateb cywir am nad ydynt wedi deall y dasg yn gyfan gwbl. Cymerwch amser i sicrhau bod y dasg wedi’i deall yn llawn cyn caniatáu i’r plentyn weithio’n annibynnol.
  7. Rhoi gwahanol fathau o wybodaeth dan wahanol benawdau. Gall hyn helpu gyda’r cof tymor hir a threfnu gwybodaeth.
  8. Nodi’r geiriau pwysig– mae hyn yn holl bwysig am fod plant dyslecsig yn aml yn cael anhawster adnabod geiriau allweddol. Byddant o bosibl yn canolbwyntio ar agweddau amherthnasol darn neu’n rhoi gormod o wybodaeth am eu bod yn cael anhawster gwybod beth yw’r pwyntiau allweddol.
  9. Defnyddio technegau amlsynhwyraidd – gweledol, clywedol, cinesthetig a chyffyrddol. Mae hyn yn bwysig am ei fod yn sicrhau y bydd o leiaf rhai o’r gweithgareddau’n symbylu dull cryfaf y plentyn o ddysgu.
  10. Defnyddio cofyddiaeth er mwyn hybu’r cof – gall hyn fod yn ffordd ddifyr ac effeithiol o ddysgu. Y dull gorau yw personoli’r mnemonig er mwyn annog y plentyn i ddatblygu ei mnemonig ei hun.
  11. Defnyddio TGCh i helpu gyda chyflymder prosesu ac annibyniaeth y dysgwr. Mae llu o raglenni TGCh ardderchog ar gael sy’n hybu pob agwedd ar ddysgu. (Gweler yr atodiad). Gall rhaglenni cyfrifiadurol hefyd helpu gydag annibyniaeth dysgwr.
  12. Sicrhau bod dynameg grŵp yn iawn ac yn adeiladol ar gyfer y dysgwr dyslecsig. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall gwaith grŵp fod yn werthfawr iawn – cyn belled â bod y plentyn dyslecsig mewn grŵp adeiladol. Ceisiwch sicrhau nad yw’r grŵp yn cynnwys gormod o blant sy’n siarad llawer – mae grwpiau angen gwrandawyr hefyd.
  13. Defnyddio dulliau ymholi – i hyrwyddo sgiliau meddwl. Gall gweithgareddau datrys problemau fod yn ddefnyddiol oherwydd yn aml nid oes gormod o waith darllen cyn mynd i’r afael â’r broblem. Gall tasgau canfod ffeithiau hefyd gymell plentyn sydd â dyslecsia, ond gwnewch yn siwr fod arweiniad clir ynglŷn â sut mae canfod yr wybodaeth. Gall y plentyn wastraffu llawer o amser yn chwilio am wybodaeth ar y we neu yn y llyfrgell ac efallai y byddant yn casglu gwybodaeth amherthnasol. Mae’n bwysig felly darparu strwythur clir ar gyfer hyn.
  14. Annog dysgwyr i recordio’u meddyliau. Gall hyn fod yn dda ar gyfer helpu gyda metawybyddiaeth (sef bod yn ymwybodol o sut mae rhywun yn dysgu). Mae recordio eu meddyliau yn hyrwyddo metawybyddiaeth. Mae angen iddynt wybod sut y maent yn mynd i’r afael go iawn â thasg er mwyn gallu cofnodi eu meddyliau ac mae’r broses hon yn helpu gydag ymwybyddiaeth fetawybyddol.
  15. Chwilio am ffyrdd o hybu hunan-barch y dysgwr. Mae’n bwysig hybu hunan-barch plant drwy’r amser oherwydd bydd yn eu hannog i fentro wrth ddysgu, lle byddent efallai wedi rhoi’r gorau iddi fel arall. Mae’n holl bwysig felly cynllunio tasgau sy’n sicrhau y caiff y plentyn ryw fath o lwyddiant. Trwy lwyddo fe hybir hunan-barch, a daw llwyddiant os bydd y dasg a gyflwynir yn un gyraeddadwy. Dyma pam bod cynllunio tasgau mor bwysig.
  16. Ceisio datblygu eu gallu i gwestiynu a gofyn y math cywir o gwestiynau am y dasg. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae gwybod y math cywir o gwestiynau i’w gofyn yn helpu’r plentyn i ddeall y dasg. Gall hyn fod yn eithaf anodd ac mae’n bwysig ymarfer hyn drwy drafodaeth cyn y dasg.
  17. Uwcholeuo testun wedi’i lungopïo a defnyddio ffont sy’n dda ar gyfer dyslecsia. Mae nifer o wahanol ffontiau a ystyrir yn rhai da ar gyfer dyslecsia. Comic Sans yw un o’r rhain, ond efallai nad hwn yw’r gorau ar gyfer bob plentyn dyslecsig, felly mae’n ddoeth rhoi cynnig ar ychydig o wahanol ffontiau a gadael i’r plentyn benderfynu p’un sydd orau.
  18. Sicrhau bod cyfarwyddiadau’n fyr ac yn eglur. Mae’n ddoeth darparu cyfres o dasgau byrion yn hytrach nag un hir. Mae hyn hefyd yn ei gwneud yn haws i’r plentyn fonitro ei gynnydd ei hun.
  19. Defnyddio gemau i atgyfnerthu geirfa– gall gweithgareddau gêm fod yn ffordd ardderchog o gymell myfyrwyr sydd â dyslecsia. Mae gan Crossbow Education gasgliad ragorol o gemau (crossboweducation.com).
  20. Ceisio datblygu creadigrwydd a sgiliau meddwl a datrys problemau. Mae hyn yn hanfodol bwysig ac mae’n faes a ddiystyrir yn aml wrth addysgu plant dyslecsig oherwydd y tueddir i ganolbwyntio’n llwyr ar addysgu sgiliau llythrennedd. Mae’n holl bwysig peidio â diystyru’r sgiliau meddwl uwch ac mae angen rhoi blaenoriaeth uchel i’r rhain.

Datblygu cof effeithiol

  • Talpio – Rhoi’r holl ddarnau tebyg o wybodaeth gyda’i gilydd mewn un grŵp – er enghraifft, os yw’r myfyriwr yn astudio daearyddiaeth gwlad, gofynnwch iddo/iddi wneud talp o’r holl ffeithiau sy’n berthnasol i’r hinsawdd. Dylai myfyrwyr allu talpio o leiaf pedair eitem gyda’i gilydd felly mae angen iddynt ganfod o leiaf pedair eitem sydd â chysylltiad cryf rhyngddynt.
  • Delweddu – Bydd yn haws iddynt gofio gwybodaeth os y gallant ddefnyddio’u holl synhwyrau wrth ddysgu. Golyga hyn ddefnyddio dull neu fodd gweledol ac i rai dysgwyr mae hyn yn bwysig iawn. Gall graffigyn neu symbol helpu i gryfhau’r cof.
  • Gwneud cysylltiadau – Mae’n bwysig bod myfyrwyr dyslecsig yn gwneud cysylltiadau wrth ddysgu, er mwyn gwneud y dysgu’n ystyrlon a’u helpu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau. Mae dysgwr effeithiol yn un sy’n gallu gwneud y cysylltiadau hyn. Y prif gysylltiad yw’r un rhwng dysgu blaenorol a dysgu newydd. Y cwestiynau y mae angen i’r dysgwr eu hystyried yw – a oes unrhyw beth am y dysgu newydd sy’n gyfarwydd? Beth sy’n gyfarwydd a pham? Bydd hyn yn helpu’r dysgwyr i gysylltu rhwng y dysgu blaenorol a’r dysgu newydd a gwneud y dysgu’n fwy effeithiol.
  • Dychymyg – Mae’n syniad da gofyn iddynt ddefnyddio delweddau neu gysylltiadau dychmygus am fod y rhain yn gallu rhoi stamp bersonol ar yr wybodaeth sydd angen ei chofio. Drwy ddefnyddio’u delweddau eu hunain, gall dysgwyr ei gwneud yn bersonol a gall hyn gynorthwyo’r cof.
  • Ailadrodd – Mae’n anarferol cofio gwybodaeth y tro cyntaf. Ond nid yw ailadrodd ar y cof bob amser yn effeithiol. Wrth gael dysgwyr i ailadrodd gwybodaeth, ceisiwch awgrymu gwahanol ffyrdd o wneud hyn. Gallant wneud hyn drwy ddefnyddio cardiau cof, cymorth gweledol, penawdau, crynodebau, nodiadau a thrafodaeth. Gellir defnyddio’r rhain i gyd i ailadrodd yr un wybodaeth. Mae angen llawer o or-ddysgu ar ddysgwyr sydd â dyslecsia cyn y gallant gyfnerthu deunydd newydd.
  • Deall – Mae deall yn hanfodol bwysig ar gyfer y cof. Mae’n werthfawr treulio amser yn sicrhau bod y dysgwr wedi deall yr wybodaeth. Gall y cynorthwyydd addysgu sicrhau dealltwriaeth drwy ofyn cwestiynau fel Pam? Beth? Pryd? Sut ac felly beth? am yr wybodaeth sy’n cael ei dysgu. Os yw’r dysgwr yn gallu ateb y mathau hyn o gwestiynau, mae’n debygol ei fod wedi deall y pwnc i ryw raddau.

Strategaethau addysgu ar gyfer darllen

  • Darllen mewn parau a thiwtora gan gyfoedion. Gall y strategaethau hyn fod yn ddefnyddiol oherwydd caiff y plentyn adborth a chymorth naill ai gan oedolyn neu gan ei gyfoedion.
  • Caniatáu amser i ailddarllen – mae hyn yn hanfodol oherwydd yn aml rhaid i blant sydd â dyslecsia ddarllen unwaith er mwyn sicrhau cywirdeb ac eilwaith er mwyn deall.
  • Addysgu darllen mewn modd amlsynhwyraidd gan ddefnyddio symbyliad gweledol, clywedol, cinesthetig a chyffyrddol.
  • Rhoi cyfleoedd i or-ddysgu fel y gall y plentyn ddefnyddio’r gair y mae’n ei ddysgu mewn cynifer o wahanol ffyrdd â phosibl.
  • Mae’n bwysig bod gan y plentyn sgiliau sylfaenol o leiaf mewn ffoneg a seiniau llythrennau ond ni ddylid addysgu hyn ar draul ystyr a phrofiad iaith mewn cyd-destun. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i’r plentyn symud drwy’r ysgol. Mae’r rhan fwyaf o raglenni ffoneg wedi’u hanelu at blant ieuengach. Gall disgwyr sydd wedi meistroli sylfeini ffoneg yn unig, ddysgu darllen drwy brofiad iaith, drwy’r hyn a elwir yn ddulliau o’r top i’r gwaelod. Mae hyn yn golygu defnyddio ystyr a chyd-destun fel man cychwyn yn hytrach na drwy ddadgodio geiriau’n unigol.
  • Mae’n ddoeth defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a rhaglenni darllen a pheidio â chanolbwyntio ar un dull yn unig.
  • Gall llyfrau wedi’u tapio fod yn ddefnyddiol ond mae angen cyfraniad yr athro er mwyn sicrhau bod y plentyn wedi deall y naratif yn gywir.
  • Mae’n ddoeth defnyddio llyfrau a ddewiswyd gan y plentyn ac sy’n seiliedig ar ei ddiddordebau.
  • Wrth ddarparu cyfarwyddiadau neu nodiadau ysgrifenedig, mae’n syniad da eu britho gydag ysgogiadau gweledol.

Dyslecsia a phrosesu gwybodaeth

  • Adnabod y dull dysgu a ffafrir gan y myfyriwr, yn enwedig hoffterau gweledol, clywedol, cinesthetig neu gyffyrddol, oherwydd gall y rhain fod yn hollbwysig wrth gyflwyno gwybodaeth. Mae’n bwysig cyflwyno gwybodaeth newydd yn y modd a ffafrir gan y dysgwr.
  • Cyflwyno gwybodaeth newydd fesul cam bychan – er mwyn peidio â gorlwytho’r cof tymor byr â gwybodaeth cyn i’r wybodaeth gael ei chyfnerthu’n llawn.
  • Bydd angen cyflwyno deunydd newydd droeon drwy or-ddysgu. Nid yw hyn yn golygu y dylai’r ailadrodd ddigwydd ar yr un ffurf – yn hytrach, mae’n bwysig ei amrywio gan ddefnyddio ystod mor eang â phosibl o ddeunyddiau a strategaethau.
  • Mae’n syniad da cyflwyno’r pwyntiau allweddol wrth ddechrau dysgu deunydd newydd. Mae hyn yn helpu i ddarparu fframwaith ar gyfer y deunydd newydd a gall helpu i gysylltu gwybodaeth newydd â gwybodaeth flaenorol.
  • Dylid cysylltu gwybodaeth â gwybodaeth flaenorol. Mae hyn yn sicrhau datblygu cysyniadau a bod y dysgwr yn rhoi’r wybodaeth mewn fframwaith dysgu, neu sgema. Yn aml, bydd dysgu llwyddiannus yn digwydd am fod gwybodaeth wedi’i threfnu’n effeithlon. Mae felly’n bwysig grwpio gwybodaeth gyda’i gilydd a dangos y cysylltiad rhyngddynt. Er enghraifft, pe byddai cyfres o lyfrau Harry Potter dan sylw, byddai angen egluro cysyniadau fel dewiniaeth a hud a lledrith, a’r geiriau sy’n gysylltiedig â’r rhain, a thrafod rhai o’r syniadau perthynol. Dylid gwneud hyn cyn darllen y testun.
  • Gellir defnyddio rhai strategaethau cof penodol, fel mapiau meddwl a chofyddiaeth, i helpu’r dysgwr gofio rhai o’r geiriau allweddol neu syniadau mwy heriol. Gellir gwneud hyn yn weledol drwy fapiau meddwl.
  • Bydd plant sydd â dyslecsia’n aml yn cael anhawster adnabod y pwyntiau allweddol mewn dysgu newydd neu mewn testun. Gellir goresgyn hyn drwy ddarparu’r pwyntiau neu eiriau allweddol hyn i’r plentyn wrth ddechrau dysgu’r deunydd newydd. Hefyd, gall y dysgwr gaffael sgiliau yn hyn o beth drwy ymarfer defnyddio crynodebau. Dylai pob cyfnod o ddysgu newydd gael ei grynhoi gan y dysgwr – mae hyn ynddo’i hun yn helpu adnabod y pwyntiau allweddol.

Arsylwi yn yr Ystafell Ddosbarth

Canolbwyntio  

  • Am ba hyd y gall y disgybl ganolbwyntio?
  • O dan ba amodau y mae canolbwyntio’n gwella?
  • Pa ffactorau sy’n cyfrannu at y disgybl yn colli’r gallu i ganolbwyntio?
  • Beth yw lefel canolbwyntio neu ddiffyg canolbwyntio’r disgybl o dan wahanol amodau dysgu?

Trefnu        

  • Beth yw’r dulliau trefnu a ffafrir?
  • Faint o strwythur sydd ei angen?
  • Pa mor dda yw trefn eu gwaith, eu bwrdd, eu hunain?
  • Beth yw ymateb y disgybl i drefn a osodir gan rywun arall?

Dilyniannu

  • A yw’r disgybl yn gallu dilyn dilyniannau heb gymorth?
  • A oes anhawster cyffredinol gyda dilyniannu (e.e. gyda gwaith, dilyn cyfarwyddiadau, geiriau wrth ddarllen, llythrennau unigol mewn gwaith ysgrifenedig)?

Rhyngweithio

  • I ba raddau mae’r dysgwr yn rhyngweithio â chyfoedion, oedolion?
  • Beth yw’r dull rhyngweithio a ffafrir: un i un, grwpiau bach neu ddosbarth cyfan?
  • Sut mae’r rhyngweithio’n cael ei gynnal?

Iaith  

  • A oes mynegiant yn yr iaith?
  • A yw’r ystyr yn cael ei chyfleu’n gywir?
  • A yw’r iaith yn ddigymell neu oes raid ei hannog?
  • A ddefnyddir toriadau naturiol yn briodol wrth siarad?
  • A oes iaith fynegiannol mewn gwahanol gyd-destunau (e.e. un i un, grŵp bach neu grŵp dosbarth)?
  • A yw’r gwallau, hepgoriadau ac anawsterau hyn wrth sgwrsio ac ymateb (e.e. camynganu, gorfod ailadrodd neu egluro cwestiynau)?

Dealltwriaeth 

  • Sut mae’r plentyn yn deall gwybodaeth?
  • Pa fathau o giwiau sydd orau ar gyfer hwyluso dealltwriaeth?
  • A ddefnyddir sgemâu?
  • Pa fath o gyfarwyddiadau a ddeellir rwyddaf: ysgrifenedig, llafar neu weledol?
  • Pa mor rhwydd y gellir trosglwyddo gwybodaeth i feysydd eraill?

Darllen

  • Beth yw’r dulliau darllen a ffafrir: yn uchel, yn dawel?
  • Pa fath o wallau sy’n digwydd?

Gweledol

  • A yw’n gallu gwahaniaethu rhwng llythrennau sy’n edrych yr un fath?
  • A yw’n methu â sylweddoli bod yr un llythyren yn gallu edrych yn wahanol (e.e. ‘G’ a ‘g’)?
  • A yw’n hepgor neu’n trawsosod rhannau o air (gallai hyn fod yn arwydd o anhawster segmentu)?

Clywedol

  • A oes gan y plentyn anawsterau gwahaniaethu clywedol?
  • A yw’r plentyn yn methu â chlywed seiniau cytseiniaid ar ddechrau, yng nghanol neu ar ddiwedd geiriau?
  • A yw’r plentyn yn gallu dilyniannu’n glywedol?
  • A yw’r plentyn yn gallu asio’n glywedol?
  • A yw’r plentyn yn gallu segmentu’n glywedol?

Cymhelliant/Symbyliad

  • Beth yw lefel diddordeb y plentyn?
  • Sut mae cynyddu’r cymhelliant, pa fath o annog a chiwio sydd ei angen?
  • I ba raddau mae’r plentyn yn cymryd cyfrifoldeb am ei ddysgu ei hun?
  • Pa fath o gymorth sydd ei angen?

Hunangysyniad

  • Pa dasgau mae’r plentyn yn fwyaf tebygol o’u gwneud yn hyderus?
  • Pa bryd mae lefelau hyder y plentyn yn isel?
  • Beth yw lefel hunangysyniad a hyder y plentyn mewn gwahanol gyd-destunau?

Ymlacio  

  • A yw’r plentyn yn ymlacio wrth ddysgu?
  • A ellir gweld tystiolaeth o densiwn neu o ymlacio?

Dulliau dysgu a ffafrir  

  • Mae angen canfod y dulliau dysgu a ffafrir:
    • clywedol
    • gweledol
    • llafar
    • cinesthetig
    • cyffyrddol
    • hollgynhwysol
    • dadansoddol