Dengys ymchwil nad yw plant sydd â dyspracsia yn ‘tyfu allan’ o’r cyflwr, a’u bod mewn mwy o berygl  nac eraill o ddatblygu problemau corfforol, cymdeithasol a meddyliol sylweddol. Mae gweithgareddau ysgol, yn enwedig pan fydd plant yn ifanc, bron i gyd yn rhai echddygol. Mae disgyblion sydd â dyspracsian gorfod ymdrechu’n galed iawn i gyflawni gweithgareddau o’r fath yn yr ysgol, gan olygu eu bod nhw’n aml yn eu hosgoi neu yn aflwyddiannus. Gall newid rhywfaint ar yr amgylchedd dysgu, gan gynnwys yr ystafell ddosbarth, yr iard a’r gampfa, ynghyd ag addasu offer dysgu, helpu disgyblion sydd â dyspracisa i gyflawni eu gwaith, i ddangos cynnydd o ran eu haddysg ac ateb gofynion y cwricwlwm yn unol â’u cyfnod allweddol. Gall y newidiadau lleiaf wneud byd o wahaniaeth. Mae hi’n hollbwysig bod addysgwyr yn cydweddu (M.A.T.C.H.) galluoedd y plant gyda’r tasgau dysgu er mwyn eu cynorthwyo i lwyddo. Ystyr M.A.T.C.H. yw Addasu’r (Modify) dasg, Newid (Alter) disgwyliadau, Addysgu (Teach) strategaethau, Newid (Change) yr amgylchedd a Helpu (Help) drwy ddeall. Amlinellir strategaethau M.A.T.C.H. yn fanylach isod.  

Adnabod Dyspracsia yn yr Ystafell Ddosbarth

Efallai y bydd plentyn sydd â dyspracsia yn: 
  • ymddangos yn drwsgl neu’n lletchwith  
  • taro mewn i ddisgyblion eraill neu ar draws gwrthrychau fel coesau’r byrddau neu’r cadeiriau yn y dosbarth, neun colli diod/taro pethau drosodd yn aml  
  • cael trafferth gyda sgiliau echddygol bras fel rhedeg, hopian, sgipio, cychwyn neidio o rywfaint o uchder, dringo 
  • cael trafferth gyda sgiliau echddygol manwl, gan gynnwys newid dillad, clymu careiau esgidiau, cau botymau neu sipiau 
  • cael anhawster printio neu ysgrifennu  
  • dangos anghysondeb rhwng y galluoedd echddygol a’r galluoedd eraill (h.y. galluoedd deallusol a geiriol cryf ond ar ei hôl hi gyda sgiliau echddygol 
  • cael anhawster addasu ei symudiadau mewn ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd (er enghraifft, arafu rhyw symudiad yn raddol, neu newid cyfeiriad yn sydyn)  
  • cael trafferth penderfynu ar faint o nerth sydd ei angen a’r cyfeiriad cywir i daflu rhywbeth fel pêl tuag at darged  
  • cael anawsterau wrth ddysgu sgiliau echddygol newydd; pan fyddant wedi eu dysgu, efallai y caiff rhai sgiliau symud eu cyflawnin eithaf da, tra bydd eraill yn cael eu cyflawni’n wael 
  • osgoi tasgau echddygol sy’n gofyn am weithgarwch corfforol  
  • mynd yn rhwystredig yn hawdd, yn isel eu hunan-barch ac yn ddigymhelliant. 
  • Am ragor o bethau y gallech sylwi arnynt, cliciwch yma.
  • Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: Missiuna, C., Rivard, L., & Pollock, N. (2011). Children with Developmental Coordination Disorder: At home, at school, and in the community. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster. 

5 Strategaeth M.A.T.C.H er mwyn Sicrhau Llwyddiant

  • ADDASU’R (Modify) dasg: Lle bynnag y bo modd, ceisiwch addasu rhannau o dasg heriol, fel bod y disgybl yn dal yn gallu cymryd rhan mewn ffordd ystyrlon. 
  • NEWID (Alter) y disgwyliadau: Pwysleisiwch amcanion y weithgaredd yn hytrach na’r broses. Byddwch yn hyblyg – rhowch amser ychwanegol neu ffordd wahanol o orffen tasg er mwyn cymell y disgybl i lwyddo. 
  • ADDYSGU (Teach) strategaethau: Defnyddiwch strategaethau addysgu sydd wedi eu cynllunio’n benodol ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a all fod o gymorth hefyd i blant sydd â dyspracsia. 
  • NEWID (Change) yr amgylchedd: Ceisiwch leihau ffactorau fel sŵn, a phethau gweledol a fydd yn tynnu sylw yn yr amgylchedd dysgu a all effeithio ar lwyddiant y dysgu.  
  • HELPU (Help) drwy ddeall: Bydd deall dyspracsia yn eich helpu i ddatrys problemau pan fydd heriau dysgu, a bydd o gymorth i ddisgyblion a theuluoedd deimlou bod yn cael cefnogaeth a bydd yn cymell y plentyn i ymgysylltu â’i ddysgu. 
  • Am enghreifftiau penodol o’r strategaethau M.A.T.C.H. uchod wedi eu cymhwyso fesul cyfnod, cliciwch yma.
  • Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: Missiuna, C., & Pollock, N. Children with Motor Difficulties: A Resource for Educators (taflenni MATCH fesul cyfnod), Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster. 

Awgrymiadau ar gyfer yr Ystafell Ddosbarth

  • Lleihau faint o waith ysgrifennu sydd ei angen a chaniatâu amser ychwanegol ar gyfer cwblhau aseiniadau ysgrifenedig lleihau rhan echddygol y dasg heb newid y disgwyliadau gwybyddol. Nid yw disgwyl i’r plentyn ddarlunio stori yn hytrach na’i hysgrifennu yn newid dim ar allbwn echddygol y plentyn ac mae’n lleihau’r disgwyliadau gwybyddol. Ond byddai cael y plentyn i adrodd y stori wrthych, recordio’r stori, gweithio mewn pâr gydag un plentyn yn ‘gohebu’ a’r llall yn ‘cofnodi’, a/neu gael rhiant i gofnodi ar ran y plentyn, i gyd yn cyflawni’r amcanion gwybyddol, tra’n gofyn am lai o ymdrech echddygol. 
  • Cyflwyno cyfrifiadur/bysellfwrdd cyn gynted ag y bo modd a defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer rhagdybio geiriau, darllen yn ôl, adnabod lleferydd, a threfnu graffeg – mae’n haws i blant ddysgu’r symudiadau ailadroddus sydd eu hangen ar gyfer gwasgu allweddi cyfrifiadur llonydd na dysgu sut i reoli eu dwylo wrth ysgrifennu ar y dudalen. Mae hi’n bosib dysgu plant mor ifanc â 6 neu 7 oed i deipio, a bydd hyn yn eu paratoi ar gyfer y disgwyliadau ysgrifennu cynyddol wrth iddynt fynd yn hŷn. 
  • Llungopïo cwestiynau mathemateg – mae disgyblion sydd â dyspracsia yn aml yn cael anawsterau gosod cwestiynau mathemategol allan, ac efallai y byddant yn araf iawn yn copïo rhifau/cwestiynau mathemateg o destun neu oddi ar y bwrdd gwyn. Mae’r ymdrech sydd ei angen yn lleihau’r sylw y gallent fod yn ei roi i ddeall y cysyniad mathemategol. Os yw’r cwestiynau mathemateg wedi cael eu llungopïo, dim ond ar ysgrifennu’r ateb y mae’n rhaid i’r plentyn ganolbwyntio.  
  • Sillafu ar lafar/arddweud geiriau, defnyddio dulliau llenwi bylchau – ni all plant sy’n cael trafferth ffurfio llythrennaun gywir ganolbwyntio ar sillafu geiriau newydd. Er mwyn lleihau’r ymdrech, mae sillafu ar lafar, arddweud geiriau, defnyddio dulliau llenwi bylchau yn well na bod raid i’r plentyn brintio brawddeg lawn ar gyfer pob gair sydd angen ei sillafu.
  • Paru gyda disgybl arall ar gyfer projectau yn yr ystafell ddosbarth (gwyddoniaeth, astudiaethau cymdeithasol) sy’n golygu torri/gludo – fel bod y disgybl arall yn cyflawni rhannau echddygol y dasg a’r plentyn sydd â dyspracsia yn dal i gyfrannu at rannau ‘meddwl’ a ‘chreu syniadau’ y dasg. 
  • Osgoi defnyddio pethau mân (botymau, gleiniau) ar gyfer gweithgareddau cyfrif – mae’r rhain yn anodd i blant sydd â dyspracsia eu trin a gallant achosi cryn rwystredigaeth a/neu i’r plentyn osgoi’r gweithgareddaun gyfan gwbl. 
  • Chwilio am a defnyddio gwahanol ffyrdd o ddysgu cysyniadau ac asesu galluoedd academaidd nad ydynt yn dibynnu’n drwm ar allbwn a medr echddygol.
  • Am ragor o awgrymiadau ar gyfer yr ystafell ddosbarth ac addasiadau i’r dosbarth, cliciwch yma ac yma.
  • Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: Pollock, N., & Missiuna, C. (2007). Succeeding at school: Accommodations for students with coordination difficulties. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster. 

Awgrymiadau ar gyfer Newid ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol

  • Rhoi amser ychwanegol a/neu gymorth gan ddisgybl hŷn wrth wisgo – mae anawsterau gyda gweithgareddau hunan-ofal fel gwisgo yn golygu mai disgyblion sydd â dyspracsia yw’r olaf yn aml i fod yn barod pan fyddant yn mynd allan i’r iard i chwarae. Mae hyn yn amlwg iawn pan fydd disgwyl i blant wisgo a thynnu eu dillad gaeaf. O’r herwydd, gall plant sydd â dyspracsia golli cyfnodau egwyl yn llwyr ac felly golli rhagor o gyfleoedd chwarae corfforol a rhyngweithio cymdeithasol. 
  • Sicrhau bod gan blant fainc neu le diogel i eistedd wrth newid – mae anawsterau cydbwysedd yn golygu y gall plant sydd â dyspracsia fod angen eistedd i wisgo’u trowsus fel na fyddant yn syrthio nac yn taro i mewn i blant eraill o’u cwmpas.  
  • Defnyddio dyfeisiadau sy’n hawdd eu cauBydd Velcro ar esgidiau, a throwsusau a chrysau heb fotymau (trowsus rhedeg llac/crys chwys) hefyd yn fanteisiol iawn i blentyn sydd â dyspracsia. 
  • Am ragor o awgrymiadau ar gyfer gwisgo a hunan-ofal, cliciwch yma.
  • Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: Missiuna, C., Rivard, L., & Pollock, N. (2011). Children with Developmental Coordination Disorder: At home, at school, and in the community. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster. 

Awgrymiadau ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol

  • Canolbwyntio ar hwyl, ymdrech, cymryd rhan a chynnydd unigol. Gall fod yn anodd rhoi’r cysyniadau ystafell ddosbarth uchod ar waith mewn gwersi addysg gorfforol lle mae’r pwyslais ar fesur gallu echddygol. Serch hynny, mae’n dal yn bosibl canfod ffyrdd o annog disgyblion sydd â dyspracsia i gynyddu sgiliau echddygol i’r lefel nesaf, gwellau ffitrwydd corfforol, datblygu eu hunan-barch, a’u gallu cyffredinol i gymryd rhan gyda’u cyfoedion. Gall gemau anghystadleuol fod yn ffordd fuddiol o gyflawni’r amcanion yma. 
  • Rhannu’r dosbarth yn grwpiau llai wrth ymarfer sgiliau echddygol newydd – mae hyn yn golygu llai o rwystrau i’r disgybl sydd â dyspracsia eu hosgoi, ac y gellir grwpio plant o allu tebyg gyda’i gilydd fel y gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd 
  • Cael y disgybl sydd â dyspracsia i fod yn fodel i chi wrth addysgu sgil newydd i’r dosbarth – mae hyn yn rhoi profiad uniongyrchol i’r plentyn sydd â dyspracsia o’r sgil cyn iddo/iddi orfod ymarfer ar ei ben ei hun. 
  • Defnyddio bagiau ffa, peli Nerf a pheli mawr wrth weithio ar sgiliau pêl er mwyn sicrhau diogelwch y plentyn sydd â dyspracsia syn cael anhawster cydio yn y bêl wrth geisio’i dal, ac sydd o bosibl yn arafach yn ymateb. 
  • Annog gweithgareddau gydag amgylcheddau sefydlog – chwaraeon ffordd-o-fyw fel rhedeg trac a beicio yn yr unfan (rhagor o enghreifftiau yn ôl oedran yma) yw’r pethau y mae plant sydd â dyspracsia yn fwyaf tebygol o lwyddo ynddynt, a bydd hyn yn eu hannog i wneud gweithgarwch corfforol a bod yn ffit ac iach yn y tymor hir. 
  • Gofyn cwestiynau er mwyn sicrhau bod y plentyn wedi deall y dasg/ysgogi plentyn i feddwl am agweddau pwysig ar y dasg ac osgo’r corff – Ydy dy gorff di yn y lle iawn?” “Beth sy’n digwydd wrth i ti fownsio’r bêl yn galetach?” Bydd y rhain yn gymorth i’r disgybl sydd â dyspracsia i roi sylw i agweddau o’r dasg sydd ar goll neu sy’n heriol iddo ef/hi. 
  • Disgrifio symudiadau gyda geiriau, defnyddio iaith i sbarduno’r symudiadau angenrheidiol – “codi’r breichiau”, “cadw’r ddau benelin yn syth”, “traed ar wahân led dy ysgwyddau”.  Mae defnyddio iaith o gymorth i’r plentyn sydd â dyspracsia i ddefnyddio’i fedrau geiriol cryf a’u cymhwyso er mwyn dysgu sgil echddygol newydd. Mae gwneud hyn yn annog llwyddiant gyda’r dasg, nid yn unig yr adeg hynny ond hefyd mewn sesiynau dilynol a phan fydd y dasg neu’r amgylchedd wedi newid rhywfaint. 
  • Am ragor o awgrymiadau ar gyfer addysg gorfforol, cliciwch yma.
  • Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: Rivard, L., & Missiuna, C. (2004). Encouraging participation in physical activities for children with developmental coordination disorder. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster. 

Awgrymiadau ar gyfer Chwarae yn yr Awyr Agored

  • Cyflwyno disgyblion yn unigol i gyfarpar cae chwarae awyr agored bydd gwneud hynnyn fwy o gymhelliant iddynt roi cynnig ar y cyfarpar yn annibynnol. Mae plant sydd â dyspracsia yn tueddu i osgoi cyfarpar cae chwarae o oed ifanc iawn, gan olygu nad ydynt yn dysgu nac yn cael y profiad o ddarganfod sut y mae defnyddio’r cyfarpar. Mae eu dysgu sut i ddefnyddio’r cyfarpar mewn awyrgylch hamddenol hefyd yn beth da. Pan fydd plant eraill hefyd yn defnyddio’r cyfarpar, mae’r amgylchedd yn fwy cymhleth gan fod yn rhaid i blant sydd â dyspracsia ddysgu symud o gwmpas eu cyfoedion sydd hefyd yn symud. 
  • Arwain disgyblion sydd â dyspracsia i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel rhedeg, chwarae tic, neu hopsgots mae’r gweithgareddau yman fwy tebygol o hybu llwyddiant na gemau pêl. Y nod bob amser yw annog plant sydd â dyspracsia i deimlo hunan-werth a gwobrwyou hymdrechion a’u cyfranogiad. 
  • Am ragor o awgrymiadau ar gyfer chwarae yn yr awyr agored, cliciwch yma. I annog cyfranogiad corfforol yn fwy cyffredinol, cliciwch yma.
  • Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: 1) Missiuna, C., Rivard, L., & Pollock, N. (2011). Children with Developmental Coordination Disorder: At home, at school, and in the community. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster. 2) Rivard, L., & Missiuna, C. (2004). Encouraging participation in physical activities for children with developmental coordination disorder. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster.