Defnyddiwch y rhestr hon fel canllaw er mwyn amlygu’r mathau penodol o anawsterau sydd gan y plentyn. Nid yw hon yn rhestr gyflawn ac nid yw’n offeryn diagnostig. Gallai fod yna resymau meddygol eraill am yr anawsterau a awgrymir, felly dylai’r plentyn/person ifanc fynd i weld ymarferydd meddygol. Rydym hefyd yn argymell fod y plentyn yn cael apwyntiad gydag optegydd, gan bod anawsterau gweld hefyd yn gallu effeithio ar anawsterau cydsymudedd.
Cyfnod Sylfaen
Sgiliau echddygol bras
- Syrthio, baglu a tharo i mewn i bethau
- Anawsterau cydbwysedd (tra’n llonydd neu’n symud)
Oes
- Sgiliau pêl gwan (wrth anelu, taflu a dal) o’i gymharu â’i g/chyfoedion
Oes
- Gwneud mwy o ymdrech wrth wneud gweithgaredd, o’i gymharu â’i g/chyfoedion
- Cael anhawster cadw osgo’r corff wrth wneud gweithgaredd ar ei h/eistedd ar y llawr neu wrth y bwrdd (gall lithro i’r ochr neu bwyso yn erbyn rhywun/rhywbeth)
- Angen cymorth wrth wisgo
- Cael anhawster gydag ymwybyddiaeth ofodol (adnabod ei ffiniau corfforol ei hun
- Cael anhawster wrth drafod rhwystrau a/neu yn hopian/neidio
- Aflonydd iawn
- Cael anhawster gydag ymarfer corff a chwaraeon
- Anghysondeb rhwng ei g/alluoedd echddygol a’i g/alluoedd mewn meysydd eraill (e.e. sgiliau academaidd cryf tra bod y sgiliau symud ar ei hôl hi)
Oes
Sgiliau echddygol manwl
- Cael anhawster defnyddio’r ddwy law gyda’i gilydd ar yr un pryd (e.e. i dorri â siswrn neu ddal papur tra’n defnyddio’r llaw arall ar gyfer y bensel)
- Cael anhawster agor bocs bwyd neu becynnau
- Sgiliau cyn-ysgrifennu yn wanach na’r hyn a ddisgwylir i’w oed/lefel dysgu
- Dal pensel yn lletchwith
- Angen cymorth i gau botymau/careiau
- Defyddio cyllell a fforc yn wael (efallai’n ffafrio defnyddio’r bysedd)
- Osgoi tasgau adeiladu (Lego/blociau bach)
Sgiliau trefnu
- Cael anhawster rhoi trefn ar ei ph/bethau (hambwrdd, bag ysgol)
- Colli neu anghofio pethau
- Ddim yn hoffi newid trefn
Sgiliau gwybyddol
- Cael anhawster dysgu sgiliau newydd a throsglwyddo sgiliau a ddysgwyd
- Cael anhawster copïo (gweithredoedd neu eitemau o’r bwrdd gwyn/papur)
- Canolbwyntio gwael/anhawster talu sylw (o’i gymharu â’i ch/gyfoedion)
- Angen cymorth gyda threfn tasgau – amser/tablau
- Cael anhawster datrys problemau
- Cael anhawster aml-dasgio (gwrando a gwneud yr un pryd)
- Cof gwael
Oes
Defnyddiwch y rhestr yma fel canllaw er mwyn amlygu’r mathau penodol o anawsterau sydd gan y plentyn. Nid yw hon yn rhestr gyflawn ac nid yw’n offeryn diagnostig. Gallai fod yna resymau meddygol eraill am yr anawsterau a awgrymir, felly dylai’r plentyn/person ifanc fynd i weld ymarferydd meddygol. Rydym hefyd yn argymell fod y plentyn yn cael apwyntiad gydag optegydd, gan bod anawsterau gweld hefyd yn gallu effeithio ar anawsterau cydsymudedd.
Cyfnod Allweddol 2
Gross motor skills
- Syrthio, baglu a tharo i mewn i bethau
- Gwneud mwy o ymdrech wrth wneud gweithgaredd o’i gymharu â’i ch/gyfoedion
- Cael anhawster cadw osgo’r corff wrth wneud gweithgaredd ar ei h/eistedd ar y llawr neu wrth y bwrdd (gall bwyso drosodd neu bwyso yn erbyn rhywun/rhywbeth)
- Angen cymorth wrth wisgo
- Cael anhawster gydag ymwybyddiaeth ofodol (adnabod ei ffiniau corfforol ei hun)
- Cael anhawster trin rhwystrau a/neu hopian/neidio
- Aflonydd iawn
- Cael anhawster gydag addysg gorfforol a chwaraeon (sgiliau pêl: anelu/taflu/dal a gweithgareddau ble mae angen newid osgo’r corff yn gyflym)
- Anghysondeb rhwng galluoedd echddygol y plentyn a’i g/alluoedd mewn meysydd eraill (e.e. sgiliau academaidd yn gryf tra bod y sgiliau symud ar ei hôl hi)
Oes
Sgiliau echddygol manwl
- Cael anhawster defnyddio dwy law gyda’i gilydd ar yr un pryd (e.e. i dorri â siswrn neu ddal papur tra’n defnyddio’r llaw arall ar gyfer y bensel/pin ysgrifennu)
- Cael anhawster gyda chyflymder/darllenadwyedd ei l/llawysgrifen
- Goruchafiaeth un llaw ar ei hôl hi/yn dal pensel yn lletchwith
- Angen cymorth i gau botymau/sipiau/careiau esgidiau
- Defyddio cyllell a fforc yn wael (efallai yn ffafrio defnyddio’r bysedd)
Sgiliau trefnu
- Cael anhawster rhoi trefn ar eu hunan neu ei ph/bethau (hambwrdd/bag ysgol/cyfarpar)
- Colli neu anghofio pethau
- Cael trafferth canfod ei ffordd mewn lle anghyfarwydd
- Cael trafferth dilyn amserlen/map
- Ddim yn hoffi newid i’r drefn arferol
Sgiliau gwybyddol
- Cael anhawster dysgu sgiliau newydd a throsglwyddo sgiliau a ddysgwyd
- Cael anhawster copïo (gweithredoedd neu eitemau o’r bwrdd gwyn/papur)
- Canolbwyntio gwael/anhawster talu sylw (o’i gymharu â’i ch/gyfoedion)
- Cael trafferth cynllunio/dilyniannu tasgau (gwisgo, tablau)
- Sgiliau datrys problemau gwan
- Cael anhawster aml-dasgio (gwrando a gwneud ar yr un pryd)
- Cof gwael
Oes
Defnyddiwch y rhestr yma fel canllaw er mwyn amlygu’r mathau penodol o anawsterau sydd gan y plentyn. Nid yw hon yn rhestr gyflawn ac nid yw’n offeryn diagnostig. Gallai fod yna resymau meddygol eraill am yr anawsterau a awgrymir, felly dylai’r plentyn/person ifanc fynd i weld ymarferydd meddygol. Rydym hefyd yn argymell fod y plentyn yn cael apwyntiad gydag optegydd, gan bod anawsterau gweld hefyd yn gallu effeithio ar anawsterau cydsymudedd.
Cyfnod Allweddol 3
Sgiliau echddygol bras
- Anawsterau cydbwysedd (tra’n llonydd neu’n symud)
Oes
- Cael anhawster cadw osgo’r corff wrth wneud gweithgaredd ar ei h/eistedd ar y llawr neu wrth y bwrdd (gall bwyso dros y bwrdd neu bwyso yn erbyn rhywun/rhywbeth
- Aflonydd iawn
- Cael anhawster trin rhwystrau a/neu hopian/neidio
- Cael anhawster gydag addysg gorfforol a chwaraeon (sgiliau pêl: anelu/taflu/dal a gweithgareddau ble mae angen newid osgo’r corff yn gyflym
- Gwneud mwy o ymdrech wrth wneud gweithgaredd o’i gymharu â’i ch/gyfoedion
- Cael trafferth gwisgo’n annibynnol/golwg aflêr
- Cwympo, baglu a tharo i mewn i bethau/pobl
- Anghysondeb rhwng galluoedd symud y plentyn a’i g/alluoedd mewn meysydd eraill (e.e. doniau academaidd cryf tra bod y sgiliau echddygol ar ei hôl hi)
Oes - Cael anhawster gydag ymwybyddiaeth gofodol (adnabod ei ffiniau corfforol ei hun)
Sgiliau echddygol manwl
- Cael anhawster gyda chyflymder/darllenadwyedd ei ll/lawysgrifen
- Cael trafferth gyda botymau/sipiau/careiau esgidiau
- Cael trafferth defnyddio cyllell a fforc
- Cael trafferth gyda phynciau ymarferol (e.e. coginio, gwaith labordy)
- Cael anhawster gyda thasgau sy’n gofyn am ddefnyddio dwy law gyda’i gilydd ar yr un pryd (e.e. dal papur tra’n defnyddio’r llaw arall i ysgrifennu)
Sgiliau trefnu
- Cael anhawster trefnu’i hunan (bag ysgol, locer)
- Cael anhawster rheoli’i h/amser
- Colli neu anghofio pethau
- Cael trafferth canfod ei ffordd mewn lle anghyfarwydd
- Cael trafferth dilyn amserlen/map
Sgiliau gwybyddol
- Canolbwyntio gwael/anhawster talu sylw (o’i gymharu â’i ch/gyfoedion)
- Cael trafferth cynllunio/dilyniannu tasgau (e.e. gwisgo)
- Cael anhawster yn aml-dasgio (gwrando/gwneud/copïo ar yr un pryd)
- Cael anhawster datrys problemau
- Cof gwael
Oes - Cael anhawster dysgu sgiliau newydd a throsglwyddo sgiliau a ddysgwyd (gall ailadrodd camgymeriadau)